Cefnogwch Clwb trwy ddod yn aelod
Wrth ymuno â Chlwb y Bont byddwch yn cefnogi ein gwaith o ddarparu cartref i fywyd diwylliannol, cerddorol a Chymraeg ym Mhontypridd a De Cymru.
Cliciwch Ymuno isod i sefydlu Debyd Uniongyrchol am gyn lleied â £5 y mis. Diolch am eich cefnogaeth.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Clwb Y Bont wedi bod yn lle anhygoel i fod, yn ôl yng nghanol bywyd diwylliannol Cymraeg Pontypridd. Er gwaethaf y lefelau uchel o weithgarwch, mae rhedeg y Clwb o ddydd i ddydd yn parhau i fod yn her. Mae costau’n dal i godi wrth i ni geisio cynyddu gweithgareddau’r Clwb, gwella’r cyfleusterau a delio ag effaith digwyddiadau fel y llifogydd newydd ym mis Tachwedd 2024.

- Ar gyfer 2025, mae aelodaeth ar gael trwy ddebyd uniongyrchol am £5 y mis.
- Mae’r aelodaeth yn llai na phris dau goffi y mis, a byddwch yn gallu ein helpu i barhau i weithio i gadw’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn fyw ym Mhontypridd a Rhondda Cynon Taf.

- Ymaelodi yw un o’r ffyrdd gorau y gallwch chi helpu Clwb i barhau i weithredu.

- Bydd aelodau yn 2025 yn gallu dewis eitem o blith nwyddau’r Clwb (i’w casglu o’r Clwb), unwaith y bydd yr aelodaeth wedi’i phrosesu.
- Bydd ein e-byst i aelodau yn hysbysebu newyddion am ddigwyddiadau Clwb.
- Bydd aelodaeth rhodd i’ch ffrindiau a’ch teulu hefyd ar gael.
Ebostiwch aelodaeth.clwbybont@gmail.com i glywed am ddulliau talu eraill
Aelodaeth Rhodd
Rhowch yr anrheg sy’n parhau i roi – aelodaeth i Glwb y Bont! Ebostiwch aelodaeth.clwbybont@gmail.com am fwy o wybodaeth.
