Swyddi

Rheolwr Lleoliad

  • Mae Clwb y Bont yn dymuno penodi Rheolwr Lleoliad i gyflawni a datblygu ein gweithrediadau Blaen Tŷ. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu a’r profiad i sicrhau darpariaeth effeithiol a phroffiadol o wasanaeth Bar a Lleoliad sy’n cefnogi ac yn ategu at amcanion y Clwb yn unol â’n amcanion datblygu cwsmeriaid. Dyma gyfle gwych i rywun sy’n dymuno gwneud argraff mewn un o leoliadau cerddoriaeth adnabyddus De Cymru sy’n cefnogi Cymreictod ym mhob ffurf, wedi’i leoli ym Mhontypridd.
  • Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol gan fod Clwb y Bont wedi datblygu enw da fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a chymunedol, yn ogystal â lle cyfeillgar a hamddenol i gymdeithasu ynghanol Pontypridd.
  • Cysylltwch â swyddiclwbybont@gmail.com am fwy o wybodaeth.

Staff y Bar

  • Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion cyfeillgar a dibynadwy i ymuno â thîm Staff y Bar.
  • Os ydych chi’n medru tynnu peintiau a bod gennych ychydig o wybodaeth am ddiodydd alcoholig a di-alcohol ac yn berson hyblyg, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn hapus i gynnig hyfforddiant.
  • Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol gan fod Clwb y Bont wedi datblygu enw da fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a chymunedol, yn ogystal â lle cyfeillgar a hamddenol i gymdeithasu ynghanol Pontypridd.
  • Cysylltwch â’n Rheolwr Bar, Alun Reynolds: clwbybont@gmail.com

Rolau Gwirfoddoli

  • Allwch chi helpu gyda’r gwaith o gynnal Clwb y Bont?
  • Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig i ymuno â’r tîm, all gynnig awr neu 2, i helpu gyda pob math o ddyletswyddau.
  • BYDDEM WRTH EIN BODDAU YN CLYWED GENNYCH! Cysylltwch Ena: clwbybont@gmail.com
Gwirfoddoli - Volunteer (General Flyer)
Gwirfoddoli – Volunteer (General Flyer)